Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn yw 1 Ebrill 2021
Rhagwelir y bydd prosiectau a gymeradwywyd yn y cylch hwn yn dechrau ddechrau mis Awst 2021 ac y byddant yn gallu rhedeg hyd at 30 Medi 2022.
I weld y rowndiau ariannu, mewngofnodwch i MAP a chliciwch ar y sgrin Ceisiadau lle byddwch yn gweld y rowndiau y mae eich sefydliad yn gymwys i'w cael.
Noder nad oes unrhyw geisiadau'n cael eu gwahodd yn y cylch hwn ar gyfer y cronfeydd 'Ieuenctid' Cynhwysiant Gweithredol. Fodd bynnag, bydd cylch ariannu Cynhwysiant Gweithredol pellach yn cael ei lansio ddechrau mis Mai.
Bydd y cylch hwn yn cynnwys categorïau GCG -Ieuenctid a DC-Ieuenctid ochr yn ochr â chyfleoedd pellach i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau sy'n dod o fewn manylebau GCG-25+ a DC-25+.
Rhagwelir y bydd prosiectau a gymeradwywyd yn y cylch hwn yn dechrau ddechrau mis Hydref 2021 ac y byddant yn gallu rhedeg hyd at 30 Medi 2022.
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r tîm Cynhwysiant Gweithredol trwy activeinclusion(at)wcva.cymru. Byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am eich syniadau prosiect a hefyd ynglŷn â chwblhau'r ffurflen gais a phroffil y prosiect.