Ariennir y Cynllun Grantiau Bach ar gyfer Cymorth

Ariennir y Cynllun Grantiau Bach ar gyfer Cymorth i Ffoaduriaid gan Gyngor Sir Powys.

 

Gweinyddir y cynllun gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys ar ran y cyllidwyr.

 

Bydd y Cynllun yn darparu cyllid i alluogi grwpiau sector gwirfoddol a chymunedau buddiant i gefnogi integreiddio a setlo ffoaduriaid yn y gymuned, gyda gweithgareddau yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2024 (17 Mehefin - 23 Mehefin 2024 https://refugeeweek.org.uk/theme -2024-ourhome/)  a Jo Cox Big Get Together (21ain – 23ain Mehefin 2024 https://www.jocoxfoundation.org/our-work/stronger-communities/great-get-together/).

 

Mae grantiau o £200 hyd at £1,000 ar gael i sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster a grant. Cyfanswm y pot grant sydd ar gael yw £5000.

 

CYMHWYSTER

Rhaid i sefydliadau sy'n gwneud cais am y grant:

 

1. Bod yn cefnogi ffoaduriaid o fewn eu cymuned leol

2. Bod â dogfen lywodraethol

3. Bod â chyfrif banc

4. Bod â pholisi diogelu ac yswiriant perthnasol

 

MEINI PRAWF

Bydd y gronfa’n cefnogi gweithgarwch sy’n:

cefnogi integreiddio a setlo ffoaduriaid mewn cymunedau ar draws Bowys gyda gweithgareddau yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2024 (17eg Mehefin – 23ain Mehefin 2024) a Chyfarfod Mawr Jo Cox (21ain – 23ain Mehefin 2024).

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â grants@pavo.org.uk neu ffoniwch 0597 822191.

 

I ofyn am y ffurflen gais cliciwch yma:

https://bit.ly/RSG-2024

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity