Ymunwch â ni i lansio'r Safonau Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol

Ar 14 Tachwedd bydd Julie Morgan AoS yn cyflwyno lansiad Safonau Dysgu a Datblygu Cenedlaethol cyntaf Cymru.

Ymunwch â ni am y digwyddiad lansio rhithiol

Bydd panel o arbenigwyr diogelu o bob cwr o Gymru yn ymuno â'r Dirprwy Weinidog. Bydd y digwyddiad lansio awr o hyd yn dechrau am 10am. Caiff y digwyddiad rhithwir, a gynhelir gan ddefnyddio Teams Live, ei gadeirio gan Jane Randall, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Safonau'n nodi'r disgwyliadau ar gyfer gwybodaeth, sgiliau, agweddau a gwerthoedd i bobl sy'n gweithio gydag oedolion a phlant a allai fod mewn perygl o gael eu cam-drin, niwed neu esgeulustod ac sy'n garreg filltir arwyddocaol yn natblygiad arferion diogelu yng Nghymru.

 

Bydd y Cadeirydd yn arwain panel o arweinwyr diogelu o'r sectorau statudol a gwirfoddol wrth drafod sut bydd y safonau diogelu yn gwella ymarfer.

Bydd Lance Carver, Cadeirydd Bwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg, hefyd yn siarad i gyflwyno'r safonau.

Cofrestrwch nawr i fod yn rhan o lansiad safonau dysgu a datblygu cenedlaethol cyntaf erioed Cymru.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity