Mae Wythnos Elusennau Cymru yn ôl, sef wythnos sy’n canolbwyntio ar gydnabod gwaith elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Yr wythnos hon, a gynhelir rhwng 21-25 Tachwedd 2022, yw’ch cyfle chi i floeddio am y gwahaniaeth y mae eich mudiad elusennol yn ei wneud.
Gallwch gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru mewn nifer o ffyrdd:
- Rhannwch fideo byr – Postiwch fideo am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #WythnosElusennauCymru. Mae canllaw syml ar sut i greu eich fideo ar wefan Wythnos Elusennau Cymru.
- Amlygwch eich staff neu wirfoddolwyr – Dywedwch wrth y byd am aelod staff, gwirfoddolwr neu dîm a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud, postiwch eich neges ac unrhyw luniau a allai fod gennych chi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosElusennauCymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb sydd yn y lluniau).
- Rhannwch y pecyn ymgyrchu – Anfonwch becyn ymgyrchu Wythnos Elusennau Cymru at eich ffrindiau, cefnogwyr a phartneriaid a gofyn iddyn nhw gefnogi eich gwaith drwy gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru. Mae digonedd o syniadau yn y pecyn ar sut i gymryd rhan a chefnogi elusennau Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wythnoselusennau.cymru.
There are several ways you can get involved in #WelshCharitiesWeek:
1. Share a short video - Post a video about your work on social media and remember to use #WelshCharitiesWeek. There’s a simple guide on how to create your video on the Welsh Charities Week website.
2.Highlight your staff or volunteers - Tell the world about a staff member, volunteer or team and the difference they make, post your message and any photos you might have on social media using #WelshCharitiesWeek (please make sure you have the permission of everyone featured).
3.Share the campaign pack – Send the Welsh Charities Week campaign pack to your friends, supporters and partners and ask them to support your work by getting involved in Welsh Charities Week. The pack has plenty of ideas on how to take part and support Welsh charities.
Find out more at welshcharitiesweek.cymru.