Mae’r daflen wybodaeth wedi’i hanelu at ddarparwyr chwarae, ymchwilwyr chwarae a’r rhai sydd â diddordeb mewn chwarae, iechyd a lles plant.
Wedi’i ysgrifennu gan yr Athro Emeritws Fraser Brown, Mae Amddifadedd Chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae yn archwilio ymchwil ar y cysylltiadau rhwng y dirywiad yn y cyfleoedd i blant chwarae a phroblemau iechyd meddwl a chymdeithasol cynyddol. Mae'n edrych ar:
- y cysyniad o amddifadedd chwarae a'i ystyr
- y berthynas rhwng chwarae a lles meddyliol a datblygiad cymdeithasol plant
- canlyniadau amddifadedd chwarae
- effaith gadarnhaol defnyddio dull gwaith chwarae.
Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn 2013, un o’r ychwanegiadau mwyaf defnyddiol i’r fersiwn newydd yw tabl lle mae Fraser yn rhoi crynodeb trylwyr o fanteision chwarae a pheryglon amddifadedd chwarae.
Mae’r daflen wybodaeth yn ymdrin â sbectrwm amddifadedd chwarae – o achosion o esgeulustod ac amddifadedd plant eithafol i’r dylanwadau sy’n effeithio ar chwarae plant yn niwylliant heddiw. Gan dynnu ar ymchwil Fraser ei hun a thystiolaeth arall ar draws y sbectrwm hwn, mae’n trafod sut y gall agwedd gwaith chwarae fynd i’r afael â chanlyniadau negyddol amddifadedd chwarae.
Gallwch lawrlwytho'r daflen wybodaeth yma.