Stop It Now! Wales – camfanteisio’n rhywiol ar blant.

Estynnir gwahoddiad i unrhyw un sydd am godi eu hymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant i fynychu’r sesiwn Cymuned Ymarfer aml-asiantaeth nesaf gyda’r siaradwr gwadd, Sarah Walton-Jones, Gweithiwr Prosiect gyda Stop It Now! Wales a’r Lucy Faithful Foundation.

Bydd y sesiwn, a drefnir gan Dîm Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cyngor Sir Powys, yn cael ei gynnal drwy Microsoft Teams, ddydd Mawrth 21 Mawrth, rhwng 9.30-11am.

Y nod yw codi ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a sut olwg sydd ar arwyddion o fregusrwydd a risg

Bydd y sesiwn yn edrych ar y broses o sut y gall camdriniaeth ddigwydd a pha gamau y gellir eu cymryd i ddiogelu plant a chefnogi eu hadferiad.  Bydd hefyd yn cynnwys themâu sy’n esblygu megis camfanteisio troseddol ar blant a llinellau cyffuriau.

I gadw eich lle ewch i hunan-wasanaeth TRENT (staff y cyngor) neu e-bostiwch: practice.development(at)powys.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am Stop It Now! Wales ewch i: https://www.stopitnow.org.uk/stop-it-now-wales/

Mae rhagor o sesiynau Cymuned Ymarfer gan y Tîm Camfanteisio ar Blant wedi’u trefnu ar gyfer:

  • Dydd Iau 24 Mai, 9.30-11am
  • Dydd Iau 21 Medi, 9.30-11am
  • Dydd Llun, 16 Tachwedd, 9.30-11am

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity