Scroll down for English.
Penderfynir ar y gwelliannau ar sail angen lleol, ac awdurdodau lleol fydd yn penderfynu sut mae’r cyllid yn cael ei ddosbarthu.
Bydd y buddsoddiad hwn yn gwneud gwir wahaniaeth i ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol ledled Cymru, gan sicrhau bod y cyfleusterau angenrheidiol ganddynt i gefnogi eu dysgu.
Bydd yr Hawl yn ei gwneud hi’n haws i ymarferwyr gael mynediad at raglenni a phrofiadau, ond yn bwysig iawn, mae’n gosod disgwyliadau clir ynglŷn â’r hyn y mae’n rhaid i bob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru fod â’r hawl iddo.
Mae gan ymarferwyr fynediad at gynnig dysgu proffesiynol eang
ac amrywiol i gefnogi eu datblygiad parhaus yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arweinyddiaeth a chynorthwyo addysgu (y safonau proffesiynol).
Mae cyfleoedd dysgu ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn un o brif nodweddion y cynnig, ochr yn ochr â'r Cwricwlwm i Gymru a gwreiddio tegwch, lles a'r Gymraeg ar draws y gymuned ysgol gyfan.
Cynnig Dysgu Profesiynol:https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/hawl-genedlaethol-ar-gyfer-dysgu-proffesiynol/cynnig-dysgu-proffesiynol/
Mae gweithredu'r system ALN yn llwyddiannus yn flaenoriaeth allweddol a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid i adeiladu ar y momentwm presennol a'r cynnydd a wnaed hyd yma.
Diolch am eich ymrwymiad i gydweithio i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc ag ADY.
Dysgwch fwy am y Rhaglen Trawsnewid ADY
Ar-lein Anghenion dysgu ychwanegol | Is-bwnc | LLYW.CYMRU
Twitter #angheniondysguychwanegol #ADYCymru #DeddfADY
E-bost GweithreduADY(at)llyw.cymru
The improvements will be led by local need and distribution of funding determined by local authorities.
The investment will make a real difference to learners with additional needs across Wales, making sure they have the facilities they need to support their learning.
The Minister for Education and Welsh Language has launched the new national professional learning entitlement.
The new Entitlement will make it easier for practitioners to access programmes and experiences, but importantly, it sets clear expectations about what all education professionals in Wales must be entitled to.
Practitioners have access to a wide and varied professional learning offer to support their continued development in accordance with the professional standards for teaching, leadership and assisting teaching (the professional standards).
Learning opportunities for Additional Learning Needs are a key feature of the offer, alongside the Curriculum for Wales and embedding equity, well-being and the Welsh language across the whole-school community.
Professional Learning Offer: https://hwb.gov.wales/professional-development/national-professional-learning-entitlement/professional-learning-offer/
Successful implementation of the ALN system is a key priority and we will continue to work closely with our stakeholders and delivery partners to build on the current momentum and progress made to date.
Thank you for your commitment to work together to ensure positive outcomes for children and young people with ALN.
Find out more about the ALN Transformation Programme
Online Additional learning needs | Sub-topic | GOV.WALES
Twitter #additionallearningneeds #ALNWales #ALNAct
E-mail ALNImplementation(at)gov.wales