Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) am benodi Prif Weithredwr newydd.
Mae'r mudiad wedi ennill enw i’w hun am ei allu i ymateb a chyflawni ar gyfer mudiadau sy’n aelodau ond hefyd i bartneriaid strategol allweddol, megis Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Fel Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys mae gennym dri phwrpas strategol:
- Mae PAVO yn GATALYDD ar gyfer gweithredu gwirfoddol
- Mae PAVO yn LLAIS dilys i siarad ar ran Cymunedau a’r Trydydd Sector ym Mhowys
- Mae PAVO yn HWB i wybodaeth hanfodol
Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn chwilio am hyrwyddwr trydydd sector deinamig, creadigol, ymroddedig ac angerddol i arwain y mudiad gwerthfawr a champus hwn trwy’r cam nesaf yn ei ddatblygiad.
Os ydych wedi dal rôl uwch arweinydd mewn mudiad cymhleth a phrofiad neu wybodaeth helaeth o’r trydydd sector / sector cymunedol, ynghyd â gwybodaeth am yr heriau unigryw o weithredu mewn ardal wledig eang ac ymwybyddiaeth o ofynion polisi a deddfwriaeth allweddol Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol allweddol eraill, yna rydym yn chwilio amdanoch chi. Hoffem glywed eich syniadau a’ch strategaethau i helpu i gynnal PAVO a’r mudiadau sy’n aelodau trwy gyfnodau fydd heb amheuaeth yn anodd a hefyd y tu hwnt i hynny.
Bydd hwn yn gyfle cyffrous ac unigryw i’r unigolyn iawn a chroesewir eich cais os teimlwch fod gennych y rhinweddau yr ydym yn chwilio amdanynt.
Cyflog: Pwynt 46 - 49 (Graddfeydd NJC) £52,566 - £55,409 y flwyddyn
Oriau: 35 awr yr wythnos
Lleoliad: Swyddfeydd PAVO, Llandrindod
Cyswllt allweddol i drafod y rôl: Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr Jamie Burt neu Is-gadeirydd Dominique Jones - 01597 822191
I wneud cais e-bostiwch recruitment@pavo.org.uk i ofyn am becyn cais
Dyddiadau allweddol: Dyddiad Cau 13eg Mawrth 2023 Cynhelir cyfweliadau’r wythnos yn cychwyn: 27ain Mawrth 2023