Cyswllt Rhieni Cymru – y Daith hyd yn hyn....
Lansio Hwb Ar-lein Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024 10.00yb - 11.00yb Arlein trwy Teams
'Grymuso lleisiau rhieni a gofalwyr i hyrwyddo hawliau plant'
Bydd y weminar hon yn lansio hyb ar-lein 'Rhieni sy'n Cysylltu Cymru', a fydd yn darparu gwybodaeth a deunyddiau i gefnogi rhieni i rannu eu barn ar bolisi cenedlaethol a materion cysylltiedig.
Byddwn yn arddangos peth o'r gwaith cyffrous sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan fod rhieni wedi cael cefnogaeth i 'gymryd rhan' a 'chael dweud eu dweud.' Byddwch yn cael cyfle i gael golwg gyntaf ar y straeon lluniau a'r arddangosfa gelf, lle mae cannoedd o rieni ledled Cymru yn rhannu eu mewnwelediad unigryw a chreadigol i 'Bywyd fel Rhiant yng Nghymru', gan ddangos llawenydd a heriau rhianta.
Siaradwyr i'w cadarnhau yn fuan iawn.
Parents Connect Wales – the journey so far....
Online Hub Launch - Tuesday, 27 February 2024 -10.00am - 11.00am - Online via Teams
This webinar will launch the ‘Parents Connect Wales’ online hub, which will provide information and materials to support parents to share their views on national policy and related matters.
We will be showcasing some of the exciting work that has taken place over the last year, as parents have been supported to ‘get involved’ and ‘have a say.’ You will have an opportunity to have first sight of the photo stories and art exhibition, where hundreds of parents across Wales share their unique and creative insight into ‘Life as a Parent in Wales’, showing both the joys and challenges of parenting.
Speakers to be confirmed very soon.