Wedi’i hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r fenter gymdeithasol Beam wedi partneru â’r elusen iechyd meddwl leol Rekindle i ddarparu hyfforddiant gyrfa cyfannol a chymorth lles i bobl ifanc 18-25 oed ym Mhowys.
Maent yn cynnig:
Cymorth Iechyd Meddwl a Lles:
Cymorth 1-i-1 neu Grŵp
Hwb i Gymhelliant
Adeiladu Gwydnwch
Arweiniad ar Berthynas
Goresgyn Arwahanrwydd Cymdeithasol
Cyrchu Gwasanaethau Lleol
Ymgysylltiad Cymunedol
Sgiliau Bywyd
Hyfforddi Gyrfa – Eich Canllaw Personol ar gyfer Llwyddiant:
Cymorth 1-i-1 neu Grŵp
Meithrin Hyder
Archwilio Gyrfa
Gosod Nod
Mentora
Adeiladu CV
Paratoi ar gyfer Cyfweliad
Sgiliau Cyfathrebu
Cymorth Ariannol – Trwy Blatfform Ariannu Torfol Beam:
Mynediad i liniaduron a’r Rhyngrwyd
Ffioedd Hyfforddiannau a Chyrsiau
Cludiant i Hyfforddiant a/neu Gyflogaeth
Cefnogaeth Gofal Plant
Dillad Cyfweliad a Dillad Gwaith
Os ydych yn adnabod person ifanc a allai elwa ar y gwasanaethau a gynigir, gallwch eu cyfeirio yma. Derbynnir hunan-atgyfeiriadau gan bobl ifanc hefyd.