See posters below.
Gan fod yr arian sydd ar gael yn gyfyngedig, bydd y grwpiau hyn ymhlith y rheini sy’n derbyn y cynnig yn gyntaf i dderbyn pecynnau nwyddau mislif am ddim oddi wrth ein cyflenwr, ‘Hey Girls’. Fel a wnaed o’r blaen, gellir gwneud cais am y pecynnau hyn drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein. Gweler y taflenni sydd ynghlwm a’r ddolen ganlynol - Nwyddau Mislif Am Ddim - Cyngor Sir Powys
Ymhlith y cymunedau sy’n ddiffygiol o ran gwasanaethau yn ôl Llywodraeth Cymru mae cymunedau Du, Asiaidd a Chymunedau Ethnig Lleiafrifol, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl anabl a LHDTC+. Rydym ni hefyd am geisio cyrraedd defnyddwyr Banciau Bwyd, y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau trais domestig a theuluoedd ar incwm isel. Defnyddiwch eich dolenni a’ch cysylltiadau i dargedu’r rhai sydd wedi eu cynnwys yn y grwpiau hyn i ddefnyddio’r nwyddau sydd ar gael.
Mae nwyddau mislif ar gael i ddisgyblion ysgol drwy swyddfa’r ysgol neu aelod dynodedig o staff ym mhob ysgol. Mewn ysgolion uwchradd mae’r opsiwn hefyd o beiriannau gwerthu heb arian. I ganfod rhagor am gymorth urddas mislif i ddisgyblion yn yr ysgol cysylltwch education(at)powys.gov.uk
As the funding available is limited, these groups will be those first offered the opportunity to receive free period product packs from our supplier ‘Hey Girls’. As has been done previously the packs can be requested using an online form. Please see flyers attached and the following link - Free Period Products - Powys County Council
Welsh Government describes under-served communities as including Black, Asian and Minority Ethnic communities, Gypsies, Roma and Travellers, Asylum seekers and refugees, disabled people and LGBTQ+. We are also looking to reach Food Bank users, those accessing domestic violence services and low-income families. Please can you use your links and connections to target those included in these group to access the products available.
Period products are available to school pupils via the school office or designated staff member in all schools. In secondaries there is also the option of coin-free vending machines. To find out more about the period dignity support for pupils in school contact education(at)powys.gov.uk