Gwasanaethau Cochlea a BCHI yn Ne Cymru

Dyfodol y Gwasanaethau Dyfeisiau Mewnblaniad Clyw Arbenigol yn y De-Ddwyrain Cymru, y De-Orllewin Cymru a De Powys.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) yn comisiynu Mewnblaniadau yn y Cochlea a Dyfeisiau Mewnblaniad Clyw Dargludiad Esgyrn (BCHI) ar gyfer poblogaeth Cymru ar ran y 7 Bwrdd Iechyd. Mae’r Byrddau Iechyd yn y de-ddwyrain, y de-orllewin a De Powys wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i nodi'r ffordd orau o ddarparu gwasanaeth dyfeisiau mewnblaniad clyw yn Ne Cymru. Nid yw gwasanaethau ar gyfer cleifion sy’n byw yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys yn cael eu cynnwys yn y gwaith yma.

Hoffai PGIAC ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i gasglu eu barn am drefniadau comisiynu ar gyfer yr holl wasanaethau dyfeisiau mewnblaniad clyw arbenigol yn y dyfodol.

Bydd y broses ymgysylltu yn dechrau ar 4 Ionawr 2023 ac yn para tan 14 Chwefror 2023.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o'n gwefan: https://biap.gig.cymru/cochlea

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity