Ffenestr yn agor ar gyfer ceisiadau newydd i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae ffenestr ymgeisio arall wedi'i lansio fel rhan o raglen ariannu gyffrous a allai helpu cymunedau Powys i adeiladu balchder mewn lle, cynyddu cyfleoedd bywyd i breswylwyr a gyrru twf economaidd da.

Mae'r trydydd galwad am geisiadau i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) wedi cael ei chyhoeddi gan Bartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys. Mae'r bartneriaeth yn penderfynu sut mae dros £23m o gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei wario ar draws pedwar maes blaenoriaeth.

Bydd yr alwad ddiweddaraf ar gyfer prosiectau sydd o fewn y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys: "Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw meithrin balchder pobl yn eu cymunedau a chynyddu cyfleoedd i breswylwyr a busnesau.

"Bydd y bartneriaeth yn edrych ar sut y gall gefnogi'r nodau hyn orau ar draws y pedwar maes blaenoriaeth buddsoddi a bydd yn canolbwyntio ar gael y gwerth mwyaf o'r cyllid hwn i unigolion, cymunedau a busnesau ledled Powys.

"Rwy'n falch iawn bod ffenestr ymgeisio arall wedi agor ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae gan y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau y potensial i gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl leol, drwy gyfleoedd i uwchsgilio, ailhyfforddi neu ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o dan y drydedd ffenestr yw 23:59 ddydd Sul, 1 Hydref, 2023.

Am fwy o wybodaeth am yr alwad agored, ewch i: Y Drydedd Alwad Agored - Cyngor Sir Powys

Dylid anfon unrhyw ymholiadau at ukspf(at)powys.gov.uk

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity