Eich Syniadau Mawr ar gyfer Powys

Mae angen eich cymorth arnom i benderfynu ar y problemau mawr sydd angen i sefydliadau partner ym Mhowys ganolbwyntio ar dros y pum mlynedd nesaf.

Yn gynharach eleni, cyhoeddasom Asesiad Lles ac Asesiad o Anghenion y Boblogaeth.

Beth yw Asesiad Lles Powys 2022?

  • Mae'r Asesiad Lles yn disgrifio'r gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar ein lles cyffredinol ym Mhowys.
  • Mae cyhoeddi Asesiad Llesiant yn rhan o'n dyletswyddau dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Gallwch ddarllen cyflwyniad a chanfyddiadau allweddol ein Hasesiad Lles 2022 ar dudalen Asesiad Lles ein gwefan.
  • Gallwch hefyd ddarllen ein Hasesiad Lles 2022 llawn ar dudalen Asesiad Lles ein gwefan.

Beth yw Asesiad o Anghenion Poblogaeth Powys 2022?

  • Mae'r Asesiad o'r Boblogaeth yn disgrifio'r anghenion gofal a chymorth y presennol a’r dyfodol ym Mhowys.
  • Mae cyhoeddi Asesiad O Anghenion Y Boblogaeth yn rhan o’n dyletswyddau dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
  • Gallwch ddarllen ein Hasesiad o Anghenion Y Boblogaeth ar wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae bellach angen i ni ddefnyddio’r canfyddiadau hyn i ddatblygu ein Cynllun Lles ac ein Cynllun Ardal. Bydd y dogfennau hyn yn gosod y ffordd ar gyfer sut y bydd sefydliadau partner ym Mhowys yn cydweithio dros y pum mlynedd nesaf i gwrdd ag anghenion y sir. Bydd y dogfennau’n cael eu defnyddio gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i wneud y gwelliannau sy’n bwysig i chi.

Dyma le rydyn ni angen eich help chi.

  • Manteisiwch ar y cyfle i ddarllen a myfyrio dros yr Asesiad Lles Powys ac Asesiad Anghenion Poblogaeth Powys.
  • Yna, wrth fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddarllen ac ar eich profiadau eich hun o fyw neu weithio ym Mhowys, atebwch un cwestiwn syml:
    “Beth yw eich prif flaenoriaeth i wella lles, gofal a chymorth pobl Powys dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt?”

Cwblhewch ein harolwg neu fap syniadau (cofiwch gofrestru gyda’r safle i ddefnyddio’r Map Syniadau) erbyn y 13 Tachwedd 2022 i ddweud eich dweud.

Bydd yr adborth rydym yn ei glywed gennych erbyn 13 Tachwedd 2022 yn ein helpu datblygu ein Cynllun Lles a'n Cynllun Ardal. Bydd llawer mwy o gyfleoedd i gymryd rhan cyn cyhoeddi'r Cynllun Llesi a'r Cynllun Ardal derfynol yn y gwanwyn.

Rhannwch eich syniadau mawr i Bowys. Dweud eich dweud erbyn y 13 Tachwedd 2022: www.dweudeichdweudpowys.cymru/syniadau-mawr

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity