Anghydraddoldebau iechyd meddwl
Cyhoeddwyd ein hadroddiad ar 19 Rhagfyr 2022. Mae'r adroddiad llawn a chrynodeb ohono ar gael ar y wefan yr ymchwiliad ar ffurfiau PDF, Word ac HTML.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o safbwyntiau ein grŵp cynghori a oedd yn cynnwys pobl â phrofiad byw gwahanol a rannwyd â ni yn ystod yr ymchwiliad.
Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i’n hargymhellion erbyn dechrau mis Chwefror.
Canserau Gynaecolegol
Ym mis Tachwedd gwnaethom lansio ymgynghoriad newydd ar ganserau gynaecolegol.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 13 Ionawr 2023; mae gwybodaeth am sut i ymateb ar gael ar ein gwefan.
Materion sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol
Ar 30 Tachwedd, gwnaethom gynnal sesiwn sganio’r gorwel gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i drafod materion sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol.
Mae trawsgrifiad o'r cyfarfod ar gael ar ein gwefan, neu gallwch wylio’r sesiwn ar Senedd.tv.
Yn dilyn y cyfarfod, gwnaethom ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at y negeseuon clir a llwm ynghylch breuder y sector gofal cymdeithasol.
Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
Fel rhan o'n gwaith parhaus ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, gwnaethom ymweld â Phrifysgol De Cymru ar 8 Rhagfyr 2022. Roedd yn gyfle i ni glywed yn uniongyrchol gan fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr am y materion sydd o bwys iddynt a gweld y cyfleusterau, a bydd yr ymweliad hefyd yn helpu i lywio ein sesiwn graffu gyda’r Prif Swyddog Nyrsio ar 26 Ionawr.
Gwasanaethau endosgopi: ymchwiliad dilynol
Caeodd ein hymgynghoriad ar wasanaethau endosgopi ar 13 Rhagfyr 2022. Diolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth. Byddwn yn dechrau cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn gynnar yn 2023.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 ar 13 Rhagfyr 2022. Byddwn yn craffu ar y Gweinidogion sy'n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â’r gyllideb ddrafft ddydd Mercher 11 Ionawr. Caiff y sesiwn ei darlledu'n fyw ar www.senedd.tv, a bydd ar gael ar alw wedyn.
Gwaith arall y Pwyllgor
Gallwch hefyd weld manylion am waith y Pwyllgor hyd yma a'i flaenraglen waith ar ein gwefan.
Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ar Twitter yn @seneddiechyd.