Cynnyrch ariannol yw ased segur, megis cyfrif banc, nad yw'r cwsmer wedi'i ddefnyddio am flynyddoedd, ac nad yw'r darparwr wedi gallu cysylltu â nhw. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am ei ddosbarthu yng Nghymru, sydd wedi dod i gyfanswm o £28 miliwn ers sefydlu'r cynllun yn 2008.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig pedwar opsiwn posibl i'w hystyried: plant a phobl ifanc, yr argyfwng hinsawdd a byd natur, cynhwysiant ariannol a gweithredu cymunedol. Mae'n annhebygol o allu ariannu'r pedwar opsiwn a bydd angen blaenoriaethu. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 28 Chwefror 2024. Rydym yn eich gwahodd i ymateb. Gallwch ddarllen yr ymgynghoriad ac ymateb ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth i chi ddysgu rhagor. Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau a rhannu eich safbwyntiau cychwynnol. Cynhelir y digwyddiadau ar-lein ar 9 a 10 o Ionawr. |
Yn ddiweddarach yn 2024 byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar bob un o'r pedair thema. Bydd cyfle i chi drafod a rhannu eich barn ar sut y gall cyllid asedau segur gefnogi cymunedau yng Nghymru orau. |
The Welsh Government is proposing four potential options to consider: children and young people, the climate and nature emergencies, financial inclusion and community action. It is unlikely to be able to fund all four options and will need to prioritise.
The consultation will close on 28 February 2024. We invite you to respond. You can read the consultation and respond on The Welsh Government’s website.
The National Lottery Community Fund is hosting a series of information events for you to find out more. There will be an opportunity for you to ask questions and share your initial thoughts. The events will take place online on 9 and 10 of January. |
|
Later in 2024 we will also be hosting events focused on each of the four themes. This will be an opportunity for you to discuss and share your thoughts on how dormant asset funding can best support communities in Wales. |