Dadansoddiad o Anghenion Hyffordd

Mae PAVO yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i edrych ar anghenion hyfforddi’r sector gwirfoddol ym Mhowys.

 

Y nod yw cynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi sy'n bwydo i mewn i astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu unrhyw ddysgu a gwelliannau.

Cyn i ni edrych yn fanylach ar hyfforddiant, rydym eisiau gwybod eich barn am sgiliau a gwerthoedd ac a yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn edrych arno cyn ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant.

Mae PAVO wedyn yn bwriadu ehangu hyn i fod yn arolwg manylach yn canolbwyntio ar hyfforddiant.

Helpwch ni i hysbysu'r angen yn y dyfodol trwy gwblhau'r arolwg isod. Mae 4 adran fer (gwerthoedd a sgiliau craidd, sgiliau digidol, sgiliau trosglwyddadwy a ffocws bach ar hyfforddiant). Mae adran ychwanegol ar gyfer gwirfoddolwyr PAVO sy’n cael eu lleoli gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys e.e. Gwirfoddolwyr Brechu Torfol.

Arolwg Saesneg: https://bit.ly/SkillsSurvey-TNA

Arolwg Cymraeg: https://bit.ly/ArolwgSgiliau

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Melissa Townsend

melissa.townsend(at)pavo.org.uk / 01597 822191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity