Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (CDLl) – Amcanion, Gweledigaeth a Materion Allweddol - Powys Replacement Local Development Plan (LDP) – Key Issues, Objectives and Vision

Mae Cyngor Sir Powys ar hyn o bryd yn y camau cychwynnol o baratoi CDLl Nwydd, a fydd yn cynllunio ar gyfer anghenion ardal CDLl Powys ar gyfer y cyfnod 2022-2037.

Yn dilyn cyhoeddi’r Cytundeb Cyflenwi ym mis Gorffennaf 2022, mae’r Cyngor am gael sylwadau am Weledigaeth arfaethedig a set o Amcanion trosfwaol i lywio’r CDLl Newydd. Cafodd y Weledigaeth a’r Amcanion eu paratoi fel ymateb i’r hyn mae’r Cyngor yn credu yw’r Materion Allweddol a’r hyn sy’n llywio newid yn ardal CDLl Powys.

 

Powys County Council is currently in the initial stages of preparing a Replacement LDP, which will plan for the needs of the Powys LDP area for the period 2022-2037.

 

Following the publication of the Delivery Agreement in July 2022, the Council is seeking comments on a proposed Vision and set of overarching Objectives to inform the Replacement LDP. The Vision and the Objectives have been prepared in response to what the Council believes are the Key Issues and drivers for change in the Powys LDP area.

Caiff adborth ei groesawu ynghylch a ydym wedi cynnwys pob Mater Allweddol sy’n berthnasol i gynllunio datblygiad a Phowys.

Gwneud Sylwadau

Gallwch weld dogfen Amcanion, Gweledigaeth a Materion Allweddol a chyflwyno eich sylwadau ar-lein yn uniongyrchol drwy wefan y Cyngor: Dweud eich Dweud

Neu, mae copïau o’r dogfennau a’r ffurflenni i’w cwblhau i gyflwyno sylwadau ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol:

Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr, Y Trallwng ac Ystradgynlais

Os ydych chi’n ymweld â’r lleoliadau hyn, cysylltwch â’r llyfrgell ymlaen llaw i wneud apwyntiad i weld y ddogfen ymgynghori. Mae’r manylion cyswllt a’r oriau agor ar gyfer pob llyfrgell ar gael yma:  StoriPowys

Mae copïau o’r ffurflenni i’w cwblhau gyda’ch sylwadau wedi eu cynnwys ochr yn ochr â’r dogfennau. Bydd angen postio ffurflenni sydd wedi eu cwblhau i: Polisi Cynllunio, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod. LD1 5LG

Rhaid i’r holl sylwadau ddod i law erbyn 5pm ddydd Sul 28 Ionawr 2024.

 

Feedback is welcomed on whether we have captured all Key Issues relevant to development planning and Powys.

Making Comments

You can view the Key Issues, Objectives and Vision document and submit your comments directly online via the Councils website: Have Your Say

Alternatively, copies of the documents and forms to complete to submit comments are available at the following libraries:

Brecon, Builth Wells, Llandrindod Wells, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd Wells, Machynlleth, Newtown, Presteigne, Rhayader, Welshpool and Ystradgynlais

If you are visiting these locations, please contact the library beforehand to make an appointment to view the consultation document.  The contact details and opening hours for each library are available at: StoriPowys

Copies of the forms to complete with your comments are enclosed alongside the documents.  Completed forms will need to be posted to:  Planning Policy, Powys County Council, County Hall, Spa Road East, Llandrindod Wells. LD1 5LG

All comments must be received by 5pm Sunday 28th January 2024.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity