Cymorth Cynnar Powys Early Help

Update on Early Help work in Powys from Jan Coles, Head of Children's Services

Annwyl Gydweithiwr

Mae Strategaeth Cymorth Cynnar Powys yn sefydlu dealltwriaeth gyffredin o Gymorth Cynnar ac yn sicrhau fod y sawl sy’n gweithio gyda theuluoedd ym Mhowys yn gallu gweld sut mae eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc. Cymeradwywyd y Strategaeth gan Fwrdd Cychwyn yn Dda Powys ac mae’n disgrifio sut y gallwn gydweithio i sicrhau fod teuluoedd yn derbyn Cymorth Cynnar sydd o fewn cyrraedd ac wedi’i gydlynu pan y mae ei angen arnynt.

Ein gweledigaeth yw dylai pob plentyn a theulu ym Mhowys gael mynediad hawdd at gymorth cynnar lleol, hygyrch ac effeithiol pan y mae ei angen arnynt, i fynd i’r afael ag anawsterau fel y byddant yn codi. Mae Strategaeth Cymorth Cynnar Powys yn dynodi map ffordd ar gyfer sut y byddwn yn gweithio gyda’n cymunedau, ein hasiantaethau partner a gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, i gyflwyno Cymorth Cynnar gan sicrhau’r ‘cymorth cywir, ar yr amser iawn’.

Mae’r Strategaeth Cymorth Cynnar yn dynodi’r prif gerrig milltir megis datblygu Hybiau Cymorth Cynnar. Bydd yr Hybiau yn galluogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i gael mynediad at amrywiaeth o gefnogaeth a leolir yn lleol megis grwpiau rhianta, sesiynau galw heibio a Gofal Plant Dechrau’n Deg.

I ddarllen y strategaeth neu i ddysgu mwy am Gymorth Cynnar ym Mhowys, a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflwyno’r cymorth cywir ar yr amser iawn, edrychwch ar www.powys.gov.uk/earlyhelp

Fel arall, gallwch ffonio’r tîm Cymorth Cynnar ar 01597 826246 a siarad gydag un o’n cydlynwyr.

 Cofion cynnes

Jan

Jan Coles, Pennaeth Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir Powys

 

Dear Colleague

The Powys Early Help Strategy establishes a common understanding of Early Help and ensures those working with families in Powys can see how their contribution makes a difference to the lives of children and young people. The Strategy approved by the Powys Start Well Board describes how we can work together to ensure that families receive accessible, co-ordinated Early Help when they need it.

Our vision is that all children and families in Powys have easy access to local, accessible, effective, early help, when they need it, addressing problems when they arise. The Powys Early Help Strategy sets out a roadmap for how we work with our communities, our partner agencies and with children, young people and families, to deliver Early Help ensuring ‘the right help at the right time’.​

The Early Help Strategy identifies key milestones such as the development of Early Help Hubs. The Hubs will enable children, young people and their families to access a range of locally based support such as parenting groups, drop-in sessions and Flying Start Childcare.

To read the strategy or learn more about Early Help in Powys and how we can work together to deliver the right help at the right time visit www.powys.gov.uk/earlyhelp

Alternatively, you can call the Early Help team on 01597 826246 and speak to one of our coordinators.

Warm regards

Jan

Jan Coles ,Head Of Children’s Services, Powys County Council

 

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity