Mae Carl wedi bod yn brif swyddog i ni ers dros 14 mlynedd, a bydd ei ymadawiad yn amlwg yn newid sylweddol i ni, ein haelodau, partneriaid a rhanddeiliaid. Rhagwelodd a rheolodd Carl newid sylweddol trwy gydol ei gyfnod yn PAVO, gan adael etifeddiaeth wych ar ei ôl. Mae ei ymroddiad a'i arweiniad wedi gwneud y sefydliad yr hyn ydyw heddiw. Diolch iddo ar ran y sefydliad cyfan a dymunwn yn dda iddo yn ei rôl newydd.
Fel cadeirydd PAVO, mae’n fraint cael gweithio gyda chyd-ymddiriedolwyr medrus a phrofiadol, ynghyd â’n gweithlu diwyd ac ymroddedig. Rwy’n gwbl ffyddiog y bydd PAVO yn rheoli’r trawsnewid hwn yn esmwyth ac yn broffesiynol er mwyn inni barhau i ddarparu’r ansawdd a safon uchel y gwasanaeth rydym wedi ymrwymo iddo.
I ddechrau, rydym yn gweithredu proses recriwtio fewnol ar gyfer Prif Weithredwr interim cyn proses allanol a fydd yn recriwtio i swydd barhaol o fis Ebrill 2023. Bydd y Prif Weithredwr interim yn ymgymryd â'i g/chyfrifoldebau newydd o 17 Hydref. Byddwn, wrth gwrs, yn eich hysbysu am yr holl newidiadau wrth iddynt ddatblygu.
Jamie Burt
Cadeirydd PAVO Chair