Mae’r cynllun yn adeiladu ar beth sy’n digwydd yn y sir eisoes ac yn gosod allan sut y byddwn ni’n mynd i’r afael â’r bylchau gyda’n gilydd a cheisio gwella deilliannau iechyd a llesiant pobl ym Mhowys.
Bob pum mlynedd, byddwn ni’n adolygu ein cynlluniau, blaenoriaethau, data a pholisi sy’n dod i’r wyneb i helpu i lywio gwelliannau ar gyfer iechyd a gofal ledled y sir.
Dywed Clair Swales Prif Weithredwr PAVO a Chyd Is-gadeirydd y Bwrdd “Daeth yr holl bartneriaid ynghyd i gynhyrchu’r ail Gynllun Ardal ar y Cyd hwn. Mae’n gosod allan sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i wella iechyd a llesiant pobl ym Mhowys dros y 5 mlynedd nesaf.
“Tra bo’r cynllun wedi cael ei ddatblygu yn seiliedig ar ddata diweddar a’r hyn mae pobl Powys wedi ei ddweud, nid yw’r sgwrs drosodd eto, a byddem ni’n croesawu unrhyw adborth gyfredol am y gwaith. Gellir gweld prosiectau ymgysylltu ac ymgynghori ym Mhowys yma: www.dweudeichdweudpowys.cymru .“
Mae Cynllun Ardal Ar y Cyd 2023 – 2028 ar gael bellach ar wefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol https://cy.powysrpb.org/. yn ychwanegol at y cynllun llawn ceir Crynodeb hefyd a Fersiwn Hawdd ei Darllen.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn dod ag amrywiaeth o gynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus ynghyd, gan gynnwys y cyngor, y bwrdd iechyd, y trydydd sector, yn ogystal â dinasyddion a gofalwyr, i sicrhau fod pobl yn cydweithio’n well i wella iechyd a lles ar draws Powys.