Cael dweud eich dweud ar gyfranogiad cyhoeddus.

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gofyn i bob awdurdod lleol baratoi Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus sy’n dynodi sut y byddant yn annog pobl leol i gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau.

 

 

Mae Cyngor Sir Powys yn credu y dylai pob rhanddeiliad, gan gynnwys trigolion, partneriaid, a busnesau gael cyfleoedd i gymryd rhan ac ymgysylltu, fel y bydd eu lleisiau yn dylanwadu ar benderfyniadau a darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol led led Powys.

Mae’r strategaeth ddrafft, a luniwyd yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, yn nodi’r weledigaeth ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus ym Mhowys.

Fel rhan o’r broses ddatblygu i lunio strategaeth cyfranogiad cyhoeddus, mae’r Cyngor yn gofyn am adborth.

Dywedodd y Cyng. James Gibson-Watt, Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: “Rydym eisiau gweithio er budd pennaf Powys a rhoi trigolion a chymunedau wrth galon popeth a wnawn. Bydd y strategaeth hon yn tywys staff y cyngor ac aelodau etholedig tuag at ddiwylliant cydweithredol o gyfranogiad ac ymgysylltu gyda’n cymunedau lleol.

“Rwyf yn annog cymaint o bobl ag sy’n bosibl i gael dweud eu dweud ar y ddogfen ddrafft a’n helpu ni i sicrhau fod y ddogfen derfynol yn diwallu anghenion pawb.”

I weld copi o’r strategaeth ddrafft a chyflwyno eich adborth, edrychwch ar: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/strategaeth-cyfranogiad-cyhoeddus

Gellir cyflwyno adborth ar-lein, neu mae ffurflen adborth ar gael i’w lawr lwytho a gellir ei dychwelyd dros e-bost at haveyoursay(at)powys.gov.uk neu ei chyflwyno mewn unrhyw un o Lyfrgelloedd Powys.

Y dyddiad cau i gyflwyno unrhyw adborth yw dydd Sul 18 Rhagfyr 2022.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity