Cadw lle yn y Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl

Gallwch nawr gadw lle ar Gynhadledd Powys i ofalwyr di-dâl 2022, un ai yn bersonol neu ar-lein.

[Translate to Welsh:] Simon Hatch, Director of Carers Trust Wales, will be the keynote speaker at the Powys Unpaid Carers Conference 2022.

Mae’r gynhadledd am ddim a’r nod yw codi ymwybyddiaeth am anghenion gofalwyr di-dâl a rhoi cyfle iddynt rannu gwybodaeth am eu rôl gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n darparu gwasanaethau yn y sir.

Thema’r gynhadledd eleni yw:

  • Sut mae gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi?
  • Sut y mae gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio ac yn cysylltu â gofalwyr?

Cynhelir y gynhadledd ar ddydd Gwener 25 Tachwedd rhwng 10am – 3.30 pm mewn tri lleoliad ac ar-lein:

  • Academi Iechyd a Gofal Powys, Ysbyty Bronllys, LD3 0LY
  • Y ‘Media Resource Centre’, Llandrindod, LD1 6AH
  • Canolfan Gymuned ac Ymwelwyr Hafan yr Afon, Y Drenewydd, SY16 2NZ

Bydd y gynhadledd yn digwydd ar safle Bronllys, gyda’r rhan fwyaf o’r siaradwyr a’r panel yno.  Bydd y cyfan yn cael ei ffrydio’n fyw i safleoedd Llandrindod a’r Drenewydd ac i ofalwyr di-dâl yn eu cartrefi.

Ymysg y siaradwyr fydd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a nifer o ofalwyr di-dâl Powys sydd â phrofiad o waith gofalu.

Dylai gofalwyr ar y tri safle, a’r rhai o adref, fod yn gallu cymryd rhan yn y trafodaethau, ar yr amod fod y dechnoleg yn gweithio yn ôl y bwriad.

Trefnir y gynhadledd ar y cyd gan Academi Iechyd a Gofal Powys a Credu, sefydliad sy’n helpu teuluoedd a ffrindiau ar draws Powys sy’n gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl.

Meddai Jenny O’Hara Jakeway, Prif Weithredwr Credu: “Dyma gyfle gwych i ofalwyr di-dâl Powys ddod at ei gilydd a rhannu profiadau gyda’i gilydd a gyda gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu helpu i lunio’r gwasanaethau maen nhw’n ei dderbyn.

“Bydd hefyd yn gyfle iddynt gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu ac i wneud cysylltiadau newydd gydag eraill sydd yn yr un cwch â nhw.”

I gadw lle, ewch i: Powys Unpaid Carers Conference 2022 / Cynhadledd Gofalwyr Di-Dâl Powys 2022 Tickets, Fri 25 Nov 2022 at 10:00 | Eventbrite

Am fwy o wybodaeth, galwch Credu ar 01597 823800 neu ar e-bost powys.healthandcareacademy(at)wales.nhs.uk

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys sy’n cynnwys nifer o gyrff cyhoeddus ac asiantaethau eraill gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys sy’n cydweithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.

Mae’r gynhadledd yn digwydd y diwrnod ar ôl Diwrnod Hawliau Gofalwyr (dydd Iau 24 Tachwedd).

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity