Cadeirydd ac is-gadeiryddion yn cael eu hethol i Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.

Etholwyd Carl Cooper yn Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys (RPB). Cafodd Carl, sy'n Brif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), ei ethol yn Gadeirydd yn ystod cyfarfod diweddar o'r Bwrdd.

Mae’r RPB yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr nifer o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys a'r Trydydd Sector. Mae hefyd yn cynnwys aelodau sy'n cynrychioli buddiannau dinasyddion a gofalwyr di-dâl.

Diben yr RPB yw gosod strategaeth a sefydlu cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd, gofal a lles. Yr hyn sy’n bwysig yw bod y gwasanaethau hyn yn canolbwyntio ar gyflawni'r hyn sydd o bwys i bobl a chymunedau. Maent yn sicrhau dull cydweithredol ac amlasiantaethol sy'n gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, gan sicrhau canlyniadau da i'n poblogaeth yma ym Mhowys.

Mae'r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi dyraniad y sir o Gyllid Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru i gefnogi amrywiaeth eang o fentrau fel Cysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Cyfeillio Powys a Gofalwyr Ifanc.

Bydd Carl Cooper yn gwasanaethu fel Cadeirydd am y flwyddyn i ddod. Bydd dau Is-Gadeirydd, sef y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet Powys dros Bowys Ofalgar a Kirsty Williams, Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn ymuno ag ef.

Meddai Carl: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi dderbyn y rôl hon mewn cyfnod pan mae gweithio gyda'n gilydd dros Bowys yn bwysicach nag erioed. Manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl bartneriaid am eu diwydrwydd a'u hymroddiad wrth i ni geisio cydweithio i wella pethau ar gyfer pobl Powys."

Am fwy o wybodaeth am Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys a'r gwaith mae'n ei wneud, ewch i https://cy.powysrpb.org/

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity