Ond bydd y cyngor yn gofyn am help a chefnogaeth ei bartneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob cwr o’r sir i gydweithio i helpu unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed trwy’r argyfwng costau byw.
Mae’r cyngor yn ystyried darparu rhwydwaith o fannau cynnes i helpu unrhyw un sy’n cael trafferthion gyda chostau byw dros y gaeaf. Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp cymunedol neu sefydliad fyddai’n gallu cynnig mannau cynnes o fewn y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach, “Mae’r argyfwng costau byw sy’n wynebu’r DU yn rhoi pwysau aruthrol ar bobl a fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar bryd a beth i’w fwyta, beth i’w wneud mewn bywyd a phryd y byddant yn gallu fforddio i wresogi eu cartrefi.
“Rydym am wneud mwy i helpu trigolion Powys dros y misoedd oer, ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain.
“Rydym yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau gan adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed dros y pandemig, i greu rhwydwaith o fannau cynnes lle bydd pobl yn gallu dod at ei gilydd, cadw’n gynnes a mwynhau ychydig o gwmni a lluniaeth poeth.
“Os oes unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu darparu lle cynnes dros y gaeaf, rydym am glywed gennych. Byddech yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cymunedau ac yn helpu trigolion dros yr argyfwng hwn.”
Mae modd i grwpiau neu sefydliadau sy’n fodlon cynnig lle cynnes dros y gaeaf, lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb trwy fynd i: https://cy.powys.gov.uk/article/13235/Creu-Mannau-Cynnes-i-Bowys