Amser - Rhaglen Ariannu Seibiannau Byr

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn lansio rhaglen ariannu seibiannau byr genedlaethol newydd o’r enw Amser, sy’n ceisio cynnig mwy o gyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd seibiant byr o’u cyfrifoldebau gofalu.

 

 

Bydd Amser yn cael ei lansio’n swyddogol ac ar agor i geisiadau ym mis Ionawr 2023, gyda’r bwriad o ddarparu cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 erbyn mis Ebrill 2024. O’r herwydd, bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau cychwynnol rhwng Ionawr a Chwefror 2023. Bydd mudiadau’n gallu gwneud cais am gyllid blwyddyn neu ddwy flynedd.  

Bydd Amser ar agor i fudiadau trydydd sector ac o’r herwydd byddem yn croesawu eich cefnogaeth yn hyrwyddo’r cyfle hwn. Bydd gennym becynnau cais yn barod erbyn canol Ionawr, ond gan fod y cyfnod gwneud cais cychwynnol yn un byr, roeddem yn awyddus i rybuddio mudiadau trydydd sector yn awr fod y cyfle hwn ar y ffordd.   

Allech chi os gwelwch yn dda naill ai rannu’r daflen atodedig, neu gyfeirio mudiadau sydd eisiau gwybod mwy at y wefan:

https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/rhaglen-amser-2023-24

 

  

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity