YN GALW GWASANAETHAU GWAITH IEUENCTID GWIRFODDOL YNG NGHYMRU!

Mae prosiect newydd a chyffrous i Fapio a Gwerthuso’r Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru wedi'i lansio!

Prosiect KESS - Mae Mapio a Gwerthuso Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Cymru yn brosiect Meistr yn ôl Ymchwil a gynhelir gan Brifysgol De Cymru ac a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop mewn partneriaeth â CWVYS. Nod yr ymchwil yw gwneud y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn fwy gweladwy a sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Efallai eich bod yn ymwybodol nad oes digon o ymchwil a gwerth i’r sector gwirfoddol o’i gymharu â gwasanaethau statudol, sy’n cynnal archwiliad bob blwyddyn. Gobeithiwn y gall ein hymchwil newid hyn.

I wneud hynny, byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad at ein harolwg byr ar-lein. Os ydych yn fudiad sy'n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol i bobl ifanc yng Nghymru, dilynwch y ddolen isod i'r arolwg sy'n syml yn nodi natur eich mudiad a'r gefnogaeth a ddarperir i bobl ifanc. Ni ddylai cwblhau'r arolwg gymryd mwy na 15 munud.  Gwerthfawrogir eich amser a'ch sylwadau yn fawr.

I gychwyn yr arolwg, dilynwch y dolenni isod:

Arolwg yn Saesneg: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapping-and-evaluating-the-voluntary-youth-work-sector-for-7

Arolwg yn Gymraeg: https://southwales.onlinesurveys.ac.uk/mapio-a-gwerthuso-sector-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-cymru

Gofynnir ichi hefyd rannu dolen a gwybodaeth yr arolwg ymhlith eich rhwydweithiau (e.e. drwy e-bost neu ar gyfryngau cymdeithasol) – po fwyaf o ymatebion a gawn, y gorau y gallwn gynrychioli profiadau’r sector cyfan a’r bobl ifanc y maent yn eu cefnogi.

Fe gewch ragor o wybodaeth am y prosiect ar ddechrau’r arolwg, fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar yr ymchwil, mae croeso i chi gysylltu â'r ymchwilydd drwy e-bost: Elizabeth.bacon(at)southwales.ac.uk

Diolch ymlaen llaw am eich mewnbwn. Gyda'ch cymorth, rwy'n gobeithio y gallwn ni gyflawni'r newid a'r gynrychiolaeth sydd eu hangen ar y sector.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity