Cyfle ichi ddweud eich dweud!
Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu hethol yn ddemocrataidd ac yn
gweithredu ar y lefel fwyaf lleol o ddemocratiaeth. Yng Nghymru, mae dros 730 o
gynghorau cymuned a thref ac ychydig o dan 8,000 o gynghorwyr. Maen nhw'n darparu amrywiaeth o wasanaethau ar ran cymunedau.
Yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022, dim ond 38% o bobl wnaeth bleidleisio.
Roedd 85% o seddi cynghorau cymuned a thref yn rhai na safodd yr un ymgeisydd
ar eu cyfer neu'n rhai na chafodd eu llenwi.
Er mwyn ymateb i hynny mae Llywodraeth Cymru wedi creu Grŵp Gorchwyl a
Gorffen ar Iechyd Democrataidd i adolygu iechyd cynghorau cymuned a
chynghorau tref yng Nghymru.
Mae'r grŵp yn archwilio ffyrdd o:
- wella'r ymwneud rhwng cymunedau a'u cynghorau cymuned, a
- chynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymgeiswyr sy'n sefyll i gael eu hethol i gynghorau cymuned.
Bydd eich barn a'ch profiadau yn helpu'r grŵp i ddeall y materion go iawn a chynnig
camau gweithredu cadarnhaol. Mae arolwg wedi'i lansio, ac rydym yn eich annog
chi i'w lenwi, i helpu i feithrin cymunedau cryfach a mwy cynhwysol ledled Cymru.
Gofynnwn ichi ymateb drwy fynd i:
www.llyw.cymru/ymwybyddiaeth-ymgysylltu-chynrychiolaeth-ar-gynghorau-cymuned-
thref-galwad-am-dystiolaeth
Dyddiad cau yr arolwg yw 27 Tachwedd 2023.