Ymgyrch Un Mewn 500 er mwyn helpu i ddylanwadu ar ddyfodol digidol yng Nghymru

Mae’r pandemig COVID wedi trawsnewid perthynas pawb gyda’r digidol, boed hynny yn y modd yr ydych yn rhyngweithio â

chydweithwyr neu’n darparu gwasanaethau

Gyda’r digidol yn chwarae rhan eang yn y gwaith rydym yn ei wneud, mae’n hanfodol bod sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chymorth i’w helpu i wneud penderfyniadau ynghylch sut y gall digidol ategu’r amrywiaeth o weithgareddau a gyflawnir. Mae'r Trydydd Sector yng Nghymru yn cynnwys mwy na 49,000 o sefydliadau, elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau Cymunedol amrywiol. Rydym yn chwilio am 500 o sefydliadau ledled Cymru i roi gwybod inni am eich perthynas gyda thechnoleg. Bydd y wybodaeth hon yn galluogi NEWID i ddatblygu dulliau sy’n cefnogi’r Trydydd Sector yng Nghymru i ddefnyddio’r digidol i ategu, gwella a hyd yn oed.trawsnewid eu gwasanaethau.

Dyma’r tro cyntaf i asesiad sylfaenol digidol gael ei gynnal yng Nghymru. Rydym yn apelio ar y rhai sy’n gweithio yn y Trydydd Sector yng Nghymru i gymryd dau gam

1. Llenwch yr arolwg (ar ran y Sefydliad rydych yn gweithio iddo)

2. Rhannu'r ddolen i'r arolwg gyda chyswllt o’r Trydydd Sector sy'n gweithio mewn sefydliad arall.

Llenwch yr arolwg

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity