Datblygwyd y safonau oherwydd:
- nid oedd unrhyw safonau aml-asiantaeth cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu ar waith
- roedd diffyg cysondeb o ran cynllun, cynnwys a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru
- roedd dryswch ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.
Bydd y safonau’n helpu sefydliadau i wneud yn siŵr:
- eu bod yn ymgorffori'r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a gweithdrefnau diogelu
- bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
- bod pob ymarferydd yn cael mynediad i Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â nhw.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor am wyth wythnos a bydd yn cau am 11.59pm, 17 Mehefin 2022.
Sut i ymateb
Os hoffech chi ddweud eich dweud am y safonau hyfforddiant diogelu cenedlaethol arfaethedig, gallwch wneud hynny drwy:
- lenwi’r holiadur ar-lein yn www.surveymonkey.co.uk/r/8LZD98N
- cwblhau’r cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori a’i hanfon drwy’r e-bost at consultations(at)socialcare.wales
- gofyn i gael sgwrs gydag aelod o'r grŵp prosiect drwy'r e-bost uchod.