Heddiw rydym wedi cyhoeddi'r ymgynghoriad ar 'Llunio Dyfodol Cymru': Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl – Cynigion ar gyfer gosod y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru a cheisio barn ar effaith pandemig COVID-19 ar y dangosyddion cenedlaethol
Bydd yr ymgynghoriad yn agored o 1 Medi i 26 Hydref 2021 er mwyn inni allu gwireddu ein hymrwymiad i gyhoeddi'r gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol a diweddaru'r dangosyddion cenedlaethol erbyn diwedd 2021.
Mae'n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu. Fel rhanddeiliad allweddol o ran gwella llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion.
Byddwn yn cynnal gweminarau gwybodaeth i randdeiliaid glywed am y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad a byddwn yn parhau i ddefnyddio blog Llunio Dyfodol Cymru fel cyfrwng i ymgysylltu ac i barhau â'r sgwrs am y gwelliannau pwysig hyn i fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru. Os hoffech gael sgwrs fanylach am y cynigion, anfonwch e-bost i LlunioDyfodolCymru(at)llyw.cymru
Erbyn diwedd 2021, byddwn wedi gosod y cerrig milltir cenedlaethol cyntaf, wedi diweddaru dangosyddion cenedlaethol a hefyd wedi cyhoeddi Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol wedi'i ddiweddaru. Mae'r rhain yn dair rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n rhoi gwybod inni pa gynnydd rydym yn ei wneud tuag at ein nodau llesiant, yn ein helpu i ddeall yn well unrhyw heriau y gallem eu hwynebu ar y ffordd ac yn sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym i wneud pethau'n well. Os nad ydych eisoes yn gyfarwydd â'r rhain gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ein canllaw i'r hanfodion neu ein blog. Byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith hwn drwy unrhyw gylchlythyrau neu rwydweithiau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu eich hun ac yr hoffech i ni ddod draw i sôn am y gwaith hwn, rhowch wybod inni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i'r afael â'r heriau digynsail sy'n ein hwynebu. Trwy ein Rhaglen Lywodraethu rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych ac at gydweithio i lunio dyfodol Cymru.
Llawer o ddiolch
Tîm Rhaglen Llunio Dyfodol Cymru