Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r camau gweithredu a amlinellir yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ac mae'n cynnwys pob rhan o'r gweithlu sy'n chwarae rhan mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl. Er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu dull cyfannol o gefnogi pobl, mae hyn yn cynnwys y gweithlu ehangach, cyffredinol yn ogystal â'r gweithlu iechyd meddwl arbenigol.
Mae ein gwaith hyd yma wedi cynnwys ymgysylltu, ymchwil a dadansoddi sylweddol, ac mae hyn wedi llywio'r camau a awgrymwyd yn y ddogfen ymgynghori.
Sut i gymryd rhan
Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 1 Chwefror 2022 a 28 Mawrth 2022.
Amgaeaf gopi o'r ddogfen ymgynghori sy'n cynnwys y camau gweithredu arfaethedig a chopi o gwestiynau'r ymgynghoriad. Gallwch gyflwyno eich atebion drwy lenwi'r e-ffurflen hon. Nid oes rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai'n eich adnabod wrth lenwi'r e-ffurflen.
Fel arall, gallwch e-bostio eich atebion i heiw.mentalhealth(at)wales.nhs.uk
Fe welwch hefyd ar ein gwefan yn Ymgynghoriad: cynllun gweithlu iechyd meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol - AaGIC (gig.cymru) fersiwn hawdd ei darllen o'r ddogfen ymgynghori a chwestiynau, ynghyd â dogfennau ategol sy'n ymdrin â'r ymchwil a'r ymgysylltu a wnaed hyd yma.
Mae croeso i chi rannu'r e-bost hwn gyda'ch cysylltiadau ac unrhyw grwpiau / sefydliadau yr ydych yn credu y byddwch yn hoffi cymryd rhan hefyd.
Rydym hefyd yn cynnal nifer o weithdai ymgynghori y gallech fod eisoes wedi cael eich gwahodd iddynt. Os nad ydych wedi mynychu ac yr hoffech ei fynychu, ewch i Gweithdai ymgynghori: cynllun gweithlu iechyd meddwl - AaGIC (gig.cymru)
Yn ogystal, rydym yn trefnu cyfarfodydd gyda chyrff proffesiynol ac yn hapus i ymuno â chyfarfodydd eraill a drefnwyd ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl yn ystod y cyfnod ymgynghori i drafod y camau gweithredu arfaethedig. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, anfonwch e-bost at heiw.mentalhealth(at)wales.nhs.uk