Gweler y llythyr atodedig yr ydym yn ei anfon atoch ar ran y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Mae’r ymgynghoriad technegol hwn yn gyfle pwysig i fusnesau a rhanddeiliaid roi sylwadau ar fanylion yr is-ddeddfwriaeth. Nid pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw ailedrych ar fwriad y polisi y tu ôl i’r Bil, yn hytrach mae cwestiynau’r ymgynghoriad yn ceisio pennu a yw manylion technegol y drafftio yn gywir a/neu’n gyraeddadwy.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi gweithio’n agos ar ddatblygu ein hofferynnau statudol priodol i sicrhau bod y ddeddfwriaeth mor gyson â phosibl ac i leihau unrhyw risg o wahaniaethau posibl. At ddibenion yr ymgynghoriad hwn, bydd yr offeryn statudol drafft sydd wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio. Bydd dogfen ategol yr ymgynghoriad yn esbonio’n glir lle na fydd cymalau sydd yn offeryn statudol Llywodraeth y DU yn berthnasol. Fodd bynnag, bydd offeryn statudol drafft Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu (cymaint â phosibl) y darpariaethau sydd wedi’u cynnwys yn offeryn statudol Llywodraeth y DU, ac eithrio yn yr ychydig feysydd lle mae rhanddirymiadau neu wahaniaethau sy’n benodol i Gymru.
Os hoffech gyfrannu at yr ymgynghoriad, dylech gyflwyno eich ymatebion drwy lenwi'r ffurflen ar-lein hon. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r ymgynghoriad hwn yw 23:45 ar 28/07/2023.
Yn gywir,
Rebecca Evans AS/MS
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Minister for Finance and Local Government