Annwyl Gyfaill
Ymgynghoriad Cyllided Plismona
Cysylltaf a chi I ofyn y garedig a fyddai modd I chi gwblhau holiadur byr sy;n rhan o’m Ymgynghoriad ar Gyllideb Plisomna 2024-25.
https://bit.ly/DyfedPowysPrecept24-25
Fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed-Powys, fy nyletswydd i yw sicrhau gwasanaeth plismona effeithiol ac effeithlon ar gyfer ein cymunedau. Ariennir gwasanaeth plismona lleol o setliadau Grant Llywodraeth y DU a Chymru, yn ogystal â thrwy braesept yr heddlu, sef y swm y byddwch yn ei dalu am blismona drwy eich treth gyngor.
Un o fy nghyfrifoldebau statudol fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw gosod praesept yr heddlu. Mae penderfynu ar lefel y praesept bob amser yn broses heriol, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf lle bu’n rhaid imi gydbwyso rhwng heriau ariannol digynsail a sicrhau lefel briodol o wasanaeth plismona y mae ein cymunedau’n ei ddisgwyl.
Cychwynnwyd Adolygiad Heddlu'r llynedd i asesu'n feirniadol yr holl feysydd gweithgaredd o fewn Dyfed-Powys gan geisio effeithlonrwydd, arbedion cost a chyfleoedd trawsnewid. Mae cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud gan Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod yr Heddlu'n gweithredu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, ac mae hyn yn parhau i fod yn ffocws.
Fodd bynnag, nid yw gweithio'n effeithlon ac effeithiol yn golygu y gall yr Heddlu fodloni'r holl ofynion cynyddol a roddir arno.
Mae'r heriau ariannol a wynebir yn sylweddol. Mae’r pwysau o gostau a chwyddiant uchel, ynghyd â gofynion i ddarparu seilwaith hanfodol yn cael eu dyfnhau gan y cynnydd yn nifer a chymhlethdod troseddau a'r galw cyffredinol am wasanaethau heddlu.
Ar y pwynt hwn o gynllunio, mae ansicrwydd hefyd a risgiau gweithredol ac ariannol ynghylch faint o gyllid a dderbynnir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru drwy setliadau Grant Heddlu cenedlaethol a grantiau penodol sy’n sail i ystod eang o weithgarwch heddlu a’r rheng flaen.
Rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau y mae’r argyfwng costau byw yn ei roi ar bawb, a byddaf yn eu hystyried wrth i mi lywio’r amrywiaeth o heriau sy’n ymdrechu i wneud y penderfyniad gorau ar gyfer diogelwch ein cymuned tra’n sicrhau amgylchedd cynaliadwy. a gwasanaeth heddlu sy'n wydn yn ariannol.
Mae'r broses ymgynghori cyhoeddus yn caniatáu i mi ystyried eich barn a’ch adborth ar lefelau ariannu. Mae dros hanner ein cyllideb plismona yn dod drwy’r praesept yr Heddlu ac felly mae'n bwysig iawn i mi glywed eich barn felly byddwn yn ddiolchgar i chi am roi o'ch amser i gwblhau'r arolwg ymgynghori byr hwn.
Buaswn yn hynod werthfawrogol pe bai modd i chi hefyd rannu manylion yr ymgynghoriad hwn gydag eraill yn eich cymuned.
Diolch yn fawr iawn,
Dafydd Llywelyn
Comisiynydd Heddlu a Throseddu