Cyflyrau cronig
Mae'r term 'cyflyrau cronig' (a elwir hefyd yn 'gyflyrau hirdymor' neu’n 'salwch hirdymor') yn cynnwys ystod eang o gyflyrau iechyd na ellir eu gwella ond y gellir eu rheoli gyda'r cymorth a'r driniaeth gywir. Mae llawer o bobl hefyd yn byw gyda chydafiechedd (dau gyflwr cronig neu fwy). Mae’n bosibl y bydd pobl o wahanol gefndiroedd, sy’n perthyn i grwpiau neu gymunedau gwahanol neu sy’n byw mewn gwahanol rannau o Gymru, hefyd yn dioddef anghydraddoldebau oherwydd eu cyflwr neu o ran mynediad at wasanaethau neu gymorth.
Sut i roi eich barn
Rydym yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio cam cyntaf ein hymchwiliad. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth ysgrifenedig a gasglwn i nodi materion a themâu allweddol y byddwn yn eu harchwilio’n fanylach yn ystod ail gam ein gwaith. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cylch gorchwyl yr ymchwiliad a sut y gallwch rannu eich barn, ar gael ar dudalen we'r ymgynghoriad.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth yno am baratoi tystiolaeth ysgrifenedig, dwy iaith swyddogol y Senedd, a sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gyflwynir gennych.
Y dyddiad cau ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig yw dydd Iau 25 Mai.
Clywed safbwyntiau amrywiol
Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.
Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.