Dyma’r ddolen i’r ymgynghoriad ar-lein
https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/asesiad-o-r-farchnad-dai-leol
Mae gennyn ni bedwar cwestiwn i chi eu hateb.
1.Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r ardaloedd marchnad dai a gynigir, a pham?
2. Yn eich barn chi, pa amrywiolyn o ran anghenion tai yw’r mwyaf realistig a pham? Yr enwau ar y pedwar amrywiolyn yw “is”, “prif”, “uwch” a “chyfartaledd mudo 15 mlynedd”.
3. Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw anghenion tai penodol ym Mhowys? Os felly, rhowch dystiolaeth fel arolwg angen tai cymunedol, neu dywedwch sut ydych chi’n gwybod?
4. Oes yna unrhyw beth penodol yr hoffech iddo gael ei gynnwys yn yr asesiad?
Diolch yn fawr am eich ymdrech i roi adborth. Mae hon yn rhan bwysig o’r broses i ddod â’r asesiad i ben. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 10 Gorffennaf 2023.
Os oes unrhyw ymholiadau gennych neu os hoffech siarad â rhywun, cysylltwch henk.jan.kuipers(at)powys.gov.uk / 01938 551025.