Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn y rhai sy’n rheoli neu’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar:
- a ddylai fod cofrestriad gorfodol ar gyfer gweithwyr chwarae ai peidio
- pwy ddylai gael ei gofrestru
- graddfeydd amser.
Mae Chwarae Cymru yn annog gweithwyr chwarae, rheolwyr a’r rhai sy’n gweithio yn y sector gwaith chwarae i ymateb i’r ymgynghoriad pwysig hwn.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac ymateb yma: https://www.llyw.cymru/cofrestrun-broffesiynol-y-gweithlu-gofal-plant-gwaith-chwarae
Dyddiad cau’r ymgynghoriad: 7 Mawrth 2024.
Amgaeir ymateb Chwarae Cymru isod er gwybodaeth.