Mae’r cylchlythyr i randdeiliaid, sydd wedi’i atodi ac a ddosbarthwyd gan Lywodraeth Cymru, yn rhoi rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad a’r broses ymgysylltu, gan gynnwys digwyddiad lansio byw ar 5 Ebrill 2022, ynghyd â gwahanol sesiynau ymgysylltu drwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cyfres o fideos animeiddiedig sy’n darparu golwg gyffredinol ac yn esbonio sut bydd y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn gweithio i bob un o’r Rheoliadau ar gyfer Cymru.
Mae’r ymgynghoriad ar Ddiogeliadau Amddiffyn Rhyddid yng Nghymru yn cael ei gynnal i gyd-fynd ag amseriad ymgynghoriad y DU ynghylch y newidiadau arfaethedig i God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, sy’n cynnwys canllaw ar y system newydd ar gyfer Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Mae Llywodraeth Cymru yn annog rhanddeiliaid i ymateb i’r ddau ymgynghoriad. Mae manylion ynglŷn â sut i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar gael yma
Os nad ydych yn derbyn y cylchlythyr a’ch bod yn dymuno gwneud hynny, gallwch chi anfon neges e-bost i MentalHealthandVulnerableGroups(at)gov.wales er mwyn i chi gael eich ychwanegu at y rhestr o gyfeiriadau.