Nod yr ymchwil yw:
- Deall yn well brofiadau dynion hŷn sydd wedi dioddef cam-drin domestig, yn ogystal â’r rheini sydd mewn perygl
- Nodi’r rhwystrau a’r heriau y mae dynion hŷn yn eu hwynebu a allai eu hatal rhag datgelu cam-drin domestig a chael mynediad at wasanaethau cymorth
- Archwilio i ddarpariaeth y gwasanaethau cymorth yng Nghymru sydd ar gael i ddynion hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o hynny, ac i ba raddau y mae dynion hŷn yn ceisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn
Mae’r ddolen i wefan GwerthwchiGymru wedi’i hatodi, lle mae’r tendr ‘Ymchwil i brofiadau dynion hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o hynny’ ar gael nawr.
Byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn gallu rhannu hyn ymysg eich rhwydweithiau a’r rheini rydych chi’n meddwl byddai â diddordeb.