Cynorthwywyr Personol
Rydyn ni nawr yn cychwyn ar ail gam ein hastudiaeth drwy recriwtio Cynorthwywyr Personol i gymryd rhan mewn cyfweliad.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi anfon y neges isod ymlaen, ynghyd â'r wybodaeth i gyfranogwyr (yn atodedig) i'r canlynol:
- eich cysylltiadau allai fod yn Gynorthwyydd Personol,
- unrhyw un arall a allai drosglwyddo'r wybodaeth isod i Gynorthwywyr Personol
Mae Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Data Cymru, yn cynnal prosiect ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru i ddod i ddeall yn well am swyddogaeth Cynorthwywyr Personol (PA's) yng Nghymru.
At ddibenion yr ymchwil hwn, mae unrhyw un sy'n cael ei dalu'n uniongyrchol gan yr unigolyn maen nhw'n ei gefnogi, neu gan deulu agos yr unigolyn maen nhw'n ei gefnogi, yn cael ei ystyried yn Gynorthwyydd Personol. Os ydych chi'n Gynorthwyydd Personol, yna dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud.
Hoffai tîm yr astudiaeth wahodd Cynorthwywyr Personol yng Nghymru i gymryd rhan naill ai mewn cyfweliad ffôn neu ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth am yr astudiaeth a beth fyddai eich cyfranogiad yn ei olygu yn y daflen wybodaeth cyfranogwyr sydd wedi ei atodi.
Mae croeso i chi gysylltu â'r ymchwilwyr i holi unrhyw gwestiynau.
Er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â: sarah.wallace(at)southwales.ac.uk
Neu gallwch archebu diwrnod ac amser i siarad â ni trwy glicio yma: Personal Assistants and their Employers/Cynorthwywyr Personol a'u Cyflogwyr Tickets, Multiple Dates | Eventbrite
Cyflogwyr
Rydyn ni nawr yn cychwyn ar ail gam ein hastudiaeth drwy recriwtio cyflogwyr i gymryd rhan mewn cyfweliad.
Os gwelwch yn dda, a wnewch chi anfon y neges isod ymlaen, ynghyd â'r wybodaeth i gyfranogwyr (yn atodedig) i'ch cysylltiadau canlynol:
- Sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol at ddibenion cyflogi Cynorthwyydd Personol;
- Sydd o bosibl yn cyflogi Cynorthwyydd Personol gyda'u uarian eu hunain;
- Sy'n gallu pasio'r gwahoddiad i gymryd rhan i unrhyw un o'r uchod.
Mae Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Data Cymru, yn cynnal prosiect ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru i ddod i ddeall yn well am swyddogaeth a phrofiad Cynorthwywyr Personol (PA's) yng Nghymru ac am y berthynas gyflogaeth sydd gennych chi gyda'ch PA.
At ddibenion yr ymchwil hwn, mae unrhyw un rydych chi'n talu'n uniongyrchol iddo/iddi am gymorth yn cael eu hystyried fel Cynorthwywyr Personol. Os ydych chi'n cyflogi Cynorthwywyr Personol, yna dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud.
Hoffai tîm yr astudiaeth wahodd cyflogwyr yng Nghymru i gymryd rhan naill ai mewn cyfweliad ffôn neu ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth am yr astudiaeth a beth fyddai eich cyfranogiad yn ei olygu yn y daflen wybodaeth cyfranogwyr sydd wedi atodi.
Mae croeso i chi gysylltu â'r ymchwilwyr i holi unrhyw gwestiynau.
Er mwyn cofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â: sarah.wallace(at)southwales.ac.uk
Neu gallwch archebu diwrnod ac amser i siarad â ni trwy glicio yma: Personal Assistants and their Employers/Cynorthwywyr Personol a'u Cyflogwyr Tickets, Multiple Dates | Eventbrite