[Translate to Welsh:] Support to capture older people’s experiences of digital exclusion.

Mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio fwy a mwy, sy’n golygu bod sut rydyn ni’n cyfathrebu ac yn cael gafael ar wasanaethau a gwybodaeth wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gweler y neges gan y Comisiynydd Pobl Hŷn isod.

Er bod hyn yn darparu nifer o gyfleoedd, mae llawer o bobl hŷn sydd ddim ar-lein – amcangyfrifir bod tua thraean o bobl dros 75 oed – mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a’u hallgáu rhag gwybodaeth a gwasanaethau a allai eu helpu nhw i heneiddio’n dda.

Bydd pobl hŷn yn aml yn codi materion mewn perthynas ag allgáu digidol gyda mi, gan gynnwys trefnu apwyntiadau iechyd a gorfod defnyddio apiau i dalu am wasanaethau fel parcio. Materion eraill y tynnwyd sylw atynt yw trafferthion cael gafael ar wasanaethau, gwybodaeth a chyngor, yn ogystal â’r rhwystrau a wynebir gan bobl hŷn wrth iddynt geisio lleisio’u barn.

I ddysgu mwy am y materion a’r heriau a wynebir gan bobl hŷn sydd ddim ar-lein neu sydd heb lawer o sgiliau digidol, rwyf yn gwahodd pobl hŷn i rannu eu profiadau a rhoi gwybod am sut mae allgáu digidol yn effeithio arnynt.

Byddwn yn ddiolchgar petaech yn gallu fy helpu i gyrraedd cynifer o bobl hŷn â phosibl ledled Cymru. Gallwch helpu mewn nifer o ffyrdd, fel y canlynol:

  • Annog pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol i gysylltu â fy swyddfa i rannu eu profiadau (y manylion cyswllt isod)
  • Rhannu’r profforma sydd wedi’i atodi (gallwn anfon copïau papur os gofynnir amdanynt)
  • Llenwi’r ffurflen ar-lein [ https://comisiynyddph.cymru/15165/ ] ar ran person hŷn rydych chi’n ei adnabod neu’n gweithio gydag ef
  • Arddangos y poster sydd wedi ei atodi mewn mannau cymunedol i annog pobl hŷn i gysylltu â mi
  • Cynnwys gwybodaeth am y gwaith hwn mewn unrhyw ddiweddariadau neu gylchlythyrau rydych chi’n eu creu a’u rhannu â phobl hŷn
  • Rhannu enghreifftiau o arferion da
  • Danfon y wybodaeth hon at unrhyw gysylltiadau a fyddai’n gallu estyn allan at bobl hŷn

Bydd hyn yn fy helpu i nodi unrhyw feysydd lle mae angen mwy o weithredu, ac a yw hawliau pobl i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol yn cael eu cynnal - fe gyhoeddais ganllawiau ffurfiol ar gyfer awdurdodau lleol am y mater hwn yn 2021. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn a’r hyn sydd ar y gweill yma:

https://comisiynyddph.cymru/newyddion/canllawiau-newydd-i-sicrhau-bod-pobl-hyn-yn-gallu-cael-gafael-ar-yr-wybodaeth-ar-gwasanaethau-sydd-eu-hangen-arnynt-mewn-oes-ddigidol-2/

https://comisiynyddph.cymru/newyddion/mynediadau-gwybodaeth-a-gwasanaethau/

Gyda’ch help chi gallaf sicrhau bod lleisiau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn cael eu clywed, a bod eu profiadau yn cael eu defnyddio i ysgogi newid a chefnogi galwadau am weithredu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Sion Evans, fy Arweinydd Polisi ac Ymarfer (sion.evans(at)olderpeople.wales).

Diolch i chi ymlaen llaw am eich cymorth.

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity