Mae Strategaeh Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
Er mwyn helpu i gefnogi'r ymrwymiad hwn, mae ffrwd waith Mynd i'r Afael â Chyflawni Trais o fewn Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn lansio arolwg mapio ar gyfer Cymru gyfan er mwyn ceisio deall beth yw'r ymyriadau a'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n amlygu ymddygiad niweidiol, er mwyn rheoli neu leihau'r risg o niwed.
Bydd yr arolwg yn cau ar 2 Chwefror 2024.
Mae cwmpas yr arolwg yn eang ac yn ymwneud â phopeth o ymyriadau cynnar ac atal niwed i'r system cyfiawnder troseddol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn yr ymarfer mapio yn sail i gyfeiriadur o ymyriadau a gwasanaethau ledled Cymru. Mae cwblhau'r arolwg hwn yn gyfle i gynnwys eich ymyriad neu eich gwasanaeth chi yn y cyfeiriadur, yn amodol ar gael sicrwydd ynghylch ei ddiogelwch a'i addasrwydd.
Gan bwy maen nhw eisiau clywed:
Pob asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i unrhyw berson sydd wedi niweidio o fewn perthynas agos, neu sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Rydym hefyd eisiau clywed gan yr holl asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau yn y sector atal niwed ac addysgu sylfaenol.
Rydym eisiau clywed gan wasanaethau sy'n gweithio ym maes addysg, ymwybyddiaeth ac atal niwed, gan gwmpasu gwasanaethau newid ymddygiad mewn grwpiau cymunedol a gwasanaethau statudol.
Mae Rhagair Gweinidogol ac arweiniad ynghylch yr arolwg ynghlwm wrth yr e-bost hwn, ac rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â'r ddogfen i gael cyd-destun pellach ynghylch diben a chynulleidfa'r arolwg, ynghyd â gwybodaeth ymarferol am yr hyn sy'n ofynnol i'w gwblhau.
Sylwer na fyddwch yn gallu arbed eich atebion i'r arolwg a dychwelyd atynt wedyn.
Diolch ymlaen llaw am eich amser a'ch ymdrech i gwblhau'r arolwg. Rydym yn eich annog i rannu'r arolwg hwn a'r ddogfennaeth ategol ag unrhyw ymyriadau a gwasanaethau rydych yn ymwybodol ohonynt sydd o fewn cwmpas yr hyn yr ydym yn ceisio ei fapio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â: VAWDASV(at)GOV.WALES
Gellir gweld yr arolwg Gymraeg trwy’r ddolen hon - https://www.smartsurvey.co.uk/s/MIYUKK/?lang=853424