Yn dilyn cyhoeddi’r Cytundeb Cyflawni ym mis Gorffennaf 2022, mae’r Cyngor am dderbyn sylwadau am Weledigaeth arfaethedig a set o Amcanion trosfwaol i arwain y CDLl Newydd. Paratowyd y Weledigaeth a'r Amcanion fel ymateb i'r hyn y mae'r Cyngor yn ei gredu yw'r Materion Allweddol a'r hyn sy'n ysgogi newid yn ardal CDLl Powys. Croesewir adborth ynghylch a ydynt wedi cynnwys yr holl faterion allweddol sy'n berthnasol i gynllunio datblygu a Phowys.
Gwneud Sylwadau
Gallwch weld y ddogfen Amcanion, Gweledigaeth a Materion Allweddol a chyflwyno eich sylwadau ar-lein yn uniongyrchol trwy wefan y Cyngor: dweudeichdweudpowys.cymru
Fel arall, mae copïau o’r dogfennau a’r ffurflenni ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol:
Aberhonddu, Llanfair-y-Muallt, Llandrindod, Llanfyllin, Llanidloes, Llanwrtyd, Machynlleth, Y Drenewydd, Llanandras, Rhaeadr, Y Trallwng ac Ystradgynlais
Os ydych yn ymweld â'r lleoliadau hyn, cysylltwch â'r llyfrgell ymlaen llaw i wneud apwyntiad i weld y ddogfen ymgynghori. Mae manylion cyswllt ac oriau agor pob llyfrgell ar gael yma.
Mae copïau o'r ffurflenni i'w llenwi gyda'ch sylwadau wedi'u cynnwys ochr yn ochr â'r dogfennau.
Bydd angen postio ffurflenni wedi'u cwblhau i: Polisi Cynllunio, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod. LD1 5LG
Rhaid derbyn pob sylw erbyn 5pm ddydd Sul 28 Ionawr 2024.