Rydym bellach yn dechrau ar gyfnod ymgynghori’r ddogfen ddrafft ac rydym am gasglu safbwyntiau o bob rhan o’r sector gan gynnwys gwirfoddolwyr, y rhai sy’n cael mynediad at ofal a chymorth, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Mae’r dogfennau ymgynghori bellach yn fyw a byddant ar gael tan hanner nos 25 Mehefin 2023.
Gallwch weld y ddogfen a rhoi eich ymateb drwy ddilyn y ddolen hon https://gofalcymdeithasol.cymru/ymgynghoriadau/ymgynghoriad-strategaeth-gweithlu
Mae amrywiaeth o opsiynau o ran sut y gallwch ymateb gan gynnwys ffurflenni Microsoft, trwy ddogfen Word neu drwy gyflwyno e-bost gyda'ch sylwadau neu recordiad fideo neu sain yn amlinellu eich ymatebion.
Unwaith eto, a gaf i ddiolch i chi gan ragweld eich rhan yn y cyfnod hwn o'r gwaith. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gweminarau, anfonwch e-bost strategaethgweithlu(at)gofalcymdeithasol.cymru