Strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol

Tîm therapi digidol BIAP yn cefnogi gweledigaeth iechyd meddwl y Llywodraeth

Mae tîm therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar-lein GIG Cymru wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru at therapïau digidol ac ymyrraeth gynnar fel yr amlinellir yn
ei Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd.

Mae'r cynigion - sydd allan am ymgynghoriad tan fis Mehefin - yn addo “dull newydd ac eang" o ddarparu iechyd meddwl ar gyfer y degawd nesaf.

Gyda ffocws cryf ar atal, eu nod yw grymuso pobl i wella eu hiechyd meddwl wrth gael gwared ar rwystrau a stigma ynghylch ceisio cymorth. Mae'r Senedd hefyd yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant CBT ar-lein a chymorth hawdd ei gyrchu fel 111 pwyso 2.

Dywedodd Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect CBT ar-lein GIG Cymru: "Mae ein gwasanaeth yn cyflawni amcanion allweddol strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ac
rydym yn gobeithio'n fawr y bydd yn chwarae rhan wrth wireddu'r cynlluniau hyn.

"Gyda mynediad hawdd ar-lein, llwybr hunanatgyfeirio a dim rhestrau aros, rydym yn canolbwyntio'n fawr ar atal yn gyntaf wrth chwalu'r rhwystrau at ofal.

"Rydym yn darparu gwasanaeth teg gydag ystod o raglenni i gefnogi anghenion unigol, gyda naws personol, dynol a ddarperir gan ein tîm o gefnogwyr ar-lein."
Mae'r strategaeth yn galw am "ymyriadau priodol, amserol" ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, ac mae'n cydnabod, i lawer o bobl bod hyn yn golygu mynediad at therapi hunangymorth dan arweiniad.

Mae darpariaeth ddigidol GIG Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn cael ei bweru gan blatfform iechyd meddwl ar-lein SilverCloud®.

Mae'r rhaglenni rhyngweithiol yn dysgu sgiliau ymdopi ymarferol ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol a gellir eu cyrchu'n ddienw ar-lein - heb weld meddyg teulu nac ymuno â rhestrau aros - trwy unrhyw ddyfais symudol, llechen, gliniadur neu ddyfais bwrdd gwaith.

Darperir cefnogaeth drwy'r rhaglenni 12 wythnos, ond gall defnyddwyr gwasanaeth weithio trwyddynt ar drywydd sy’n gyfleus iddyn nhw a chyrchu deunydd ac ymarferion hyd yn oed ar ôl cwblhau cyrsiau. Caiff cynnydd ei fonitro gan ymarferwyr hyfforddedig, sy'n darparu adborth bob pythefnos ac yn gallu uwchgyfeirio achosion mwy difrifol i gyrchu cymorth pellach.

Mae bron i 30,000 o bobl wedi derbyn cymorth gan y gwasanaeth - sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - ers iddo gael ei dreialu ym Mhowys yn 2018.
Mae dwy o raglenni mwyaf poblogaidd y gwasanaeth yn cael eu cynnig yn Gymraeg, gyda mwy o gefnogaeth Gymraeg ar y gweill.

"Rydym yn meithrin dull integredig a chydweithredol tuag at ddatblygu ein llwybrau gwasanaeth ledled y wlad," meddai Fionnuala. "Rydym yn anelu at ehangu'r gwasanaeth
atgyfeirio ar draws sawl bwrdd iechyd dros y misoedd nesaf ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi Cymru iachach i 2030 a thu hwnt."

Mae'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles allan am ymgynghoriad tan 11 eg Mehefin. Gallwch dweud eich dweud yma.

I ofyn am becyn ymgysylltu, e-bostiwch mentalhealthandvulnerablegroups@gov.wales

Dysgwch fwy am SilverCloud®

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity