Mae’r ddogfen ymgynghori yn trafod rôl gwirfoddoli a’r sector gwirfoddoli o ran cyflawni gwydnwch ledled y DU. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen yr ymgynghoriad yma (Saesneg yn unig), a darllenwch y ddogfen lawn yma (Saesneg yn unig).
Mae CGGC yn bwriadu ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Er bod gwirfoddoli yng Nghymru yn dod o dan gylch gwaith Llywodraeth Cymru o dan Gynllun y Trydydd Sector, fel Strategaeth DU gyfan, mae’n bwysig i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru leisio’u barn ar y pwnc hwn. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth y DU i ddeall mwy am y cyd-destun gwirfoddoli yng Nghymru a’r problemau y mae Cymru yn ei hwynebu o ran gwydnwch cymunedol a chynllunio ar gyfer argyfwng. Mae CGGC yn awyddus i glywed gan yr amrediad mwyaf posibl o leisiau’r sector er mwyn cyflwyno’r ymateb mwyaf cynhwysfawr a chydlynus, felly gwahoddir chi i ystyried y ddogfen ymgynghori a’r cwestiynau ymhellach i lawr y dudalen, ac anfon eich barnau a’ch tystiolaeth i ni eu hystyried yn ein hymateb.