Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn datblygu Strategaeth Gwasanaethau Clinigol i lunio gofal iechyd poblogaeth Gogledd Cymru yn y dyfodol. Bydd y Strategaeth Gwasanaethau Clinigol yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y newid sydd ei angen i sicrhau bod ein gwasanaethau'n diwallu anghenion iechyd pobl Gogledd Cymru dros y blynyddoedd sydd i ddod. Mae'r strategaeth hon yn adeiladu ar ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a lles a amlinellir yn ein strategaeth Byw'n Iach, Aros yn Iach.
Er mwyn helpu i lywio a llunio'r Strategaeth Gwasanaethau Clinigol, rydym yn chwilio am farn ein staff, partneriaid a'r cyhoedd. Yn benodol, rydym yn awyddus i gael eich safbwyntiau ar y pedair elfen allweddol hyn:
· Ein Gweledigaeth Glinigol ar gyfer Gogledd Cymru: Beth rydym am i'n gwaith ei gyflawni
· Egwyddorion canllaw: Y rheolau i'n helpu i ddatblygu ein cynlluniau
· Dylunio ar gyfer y dyfodol: Y nodweddion sy'n bwysig i ddatblygu cynigion i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom
· Ein galluogwyr: Yr adnoddau allweddol sydd arnom eu hangen i sicrhau bod y Strategaeth yn llwyddiant
Gallwch ddweud eich dweud trwy ein holiadur cyhoeddus yma. Y dyddiad cau i gwblhau'r holiadur yw 30 Mehefin 2022.
Ewch at wefan y Bwrdd Iechyd am ragor o wybodaeth.
Diolch yn fawr