Pwrpas y fframwaith yw cefnogi’r sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant gyda lles yn y gweithle.
Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar bedwar ymrwymiad, yr ydym yn annog sefydliadau i weithio tuag atynt. Mae’n egluro’r hyn a olygwn wrth les a sut olwg sydd ar hynny i sefydliadau, rheolwyr ac unigolion. Rydym hefyd wedi cynnwys dolenni i adnoddau ategol yn ogystal ag awgrym o ‘gynllun lles sefydliadol’ i gefnogi cynllunio o fewn sefydliad.
Mae'r fframwaith yn ei gyfnod drafft ar hyn o bryd. Rydym yn gofyn am eich cymorth a'ch barn i'w ddatblygu ymhellach, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer adnoddau ategol.
Mae'r fframwaith wedi'i ysgrifennu ar gyfer y wefan ar hyn o bryd. Byddwn yn cynhyrchu dogfen PDF, fel y gall y dyluniad terfynol ar gyfer fersiwn argraffadwy edrych yn wahanol.
Ein nod yw cael defnydd defnyddiol, ac felly yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau ac unigolion. A allwch chi hefyd rannu gyda'ch rhwydweithiau gan ddefnyddio'r cwestiynau canlynol i gael adborth gan y sector ehangach.
Os hoffech drafod unrhyw ran o hyn, mae croeso i chi gysylltu â Kate neu Bec ar kate.newman(at)gofalcymdeithasol.cymru neu rebecca.cicero(at)gofalcymdeithasol.cymru
Cwestiynau
1.Beth yw eich argraff gyntaf o'r fframwaith? Meddyliwch am:
- Ydw i'n glir beth mae'n ei ddweud?
- Ydy'r iaith / tôn yn gywir?
- Fyddwn i'n ymgysylltu ag ef / yn ei ddefnyddio?
2.A ddylai'r fframwaith fod yn adnodd ar y cyd ar gyfer Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar neu a ddylai fod ar wahân?
3.Pa gefnogaeth fyddai ei angen ar eich sefydliad a / neu chi i ddefnyddio'r fframwaith?
4.A oes unrhyw adnoddau y dylem gyfeirio atynt yn yr adran ‘ble gallaf weld enghreifftiau’?
Gallwch ychwanegu sylwadau at y dogfennau ar-lein yma HWB Framework neu anfon sylwadau yn ôl ar y dogfennau Word atodedig. Bydd y fersiwn olaf ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg.
A fyddech cystal â rhannu unrhyw adborth erbyn dydd Gwener 8 Gorffennaf.