Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru rhwng 17 Awst a 7 Tachwedd 2022 ar y cynigion deddfwriaethol mewn pedwar maes:
• dileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal;
• cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer oedolion sy’n gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG;
• ehangu’r dyletswyddau gorfodol i hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg;
• diwygio’r drefn reoleiddio ar gyfer darparwyr gwasanaethau, unigolion cyfrifol a'r gweithlu gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys estyn y diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ i gynnwys gweithwyr gofal plant a chwarae.
Mae’r crynodeb o’r ymgynghoriad a’r ymatebion a gafwyd ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol mewn perthynas â gofal cymdeithasol a Gofal Iechyd Parhaus y GIG wedi’u gyhoeddi.
Mae dolen i grynodeb o’r ymgynghoriad a’r holl ymatebion wedi’i hamgáu.