Mae’n ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol yn ogystal â sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae’r asesiad yn edrych ar bedair thema:
- Cymdeithasol
- Economi
- Yr Amgylchedd
- Diwylliant a Chymuned
Fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym wedi casglu data o amrywiaeth o ffynonellau, wedi cynnal arolwg Byw ym Mhowys ac wedi defnyddio llawer o ffynonellau ymgysylltu eraill i gael dealltwriaeth dda o anghenion lles pobl ledled y sir.
Rydym wedi dynodi 18 maes ffocws sy’n rhan annatod o lesiant ac mae’r rhain i gyd wedi’u cynnwys yn ein hasesiad.
Mae’r holl wybodaeth hon wedi arwain at asesiad manwl a chynhwysfawr o lesiant ym Mhowys.
Mae’r asesiad drafft hwn wedi’i gyhoeddi ar y dudalen Dweud eich Dweud a hoffem i gynifer o drigolion, o bob oed, i gymryd rhan a’n helpu i ddeall yr hyn y mae llesiant yn ei olygu iddyn nhw.
Dyma ddolen i’r ddogfen a byddem yn ddiolchgar pe baech yn gallu llenwi’r arolwg byr.
https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/asesiad-lles
A fyddech cystal â rhannu’r asesiad drafft gyda’ch rhanddeiliaid perthnasol er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd cynifer o drigolion, partneriaid, sefydliadau’r trydydd sector ag y gallwn, yn ogystal â chynghorau tref a chymuned.
Bydd hyn yn ein helpu i gael dealltwriaeth dda o lesiant ar draws ein sir a sicrhau bod gennym gynllun Llesiant sy'n canolbwyntio ar y pethau cywir.